Sign up for our newsletter

Sign up now to receive our newsletter and regular updates


Lost in translation: a home of your ownWatch Clive's story

Cymraeg

Welsh flag

Amdanom ni

Croeso i Dimensions. Rydym yn cefnogi dros 1,200 o bobl ifanc ac oedolion ag anawsterau dysgu ledled y DU. Ni yw darparwr gwirfoddol ail fwyaf y DU ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu.

Credwn y dylai pobl ag anawsterau dysgu gael eu parchu, a derbyn yr un cyfleoedd mewn bywyd ag sydd gan bawb arall, a gwneud eu dewisiadau a'u penderfyniadau eu hunain. Ac mae diben ein sefydliad yn syml – helpu pobl ag anawsterau dysgu i fyw'r bywyd maent ei eisiau.

Mae ein diben yn sylfaen i bopeth a wnawn.

 phwy rydym yn gweithio

Rydym yn cefnogi dros 1,200 o bobl ifanc ac oedolion sydd ag ystod eang o anawsterau dysgu, gan gynnwys pobl ag anhwylder sbectrwm awtistig neu anaf caffaeledig i'r ymennydd. Mae'n bosib bod gan y bobl rydym yn eu cefnogi anghenion cymhleth neu faterion iechyd meddwl.

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn sefydliad nid er elw sy'n darparu:

  • Pecynnau cefnogaeth personol i bobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain
  • Cefnogi pobl sy'n byw mewn llety a rennir
  • Gofal preswyl cofrestredig
  • Cefnogi pobl i chwilio am lety a'i gadw
  • Seibiannau byr
  • Cefnogi pobl i hygyrchu cyfleoedd cyflogaeth a hamdden
  • Gwasanaethau cefnogi trosglwyddo i bobl ifanc ag anawsterau dysgu

Sut rydym yn gweithio

  • Rydym yn ystyried pobl ag anawsterau dysgu fel pobl yn gyntaf
  • Rydym yn parchu diwylliant a chredoau'r bobl rydym yn eu cefnogi ynghyd –'n gweithlu.
  • Rydym yn gwrando'n astud.
  • Rydym yn rhoi gwerth ar gyfraniad unigryw pawb.
  • Rydym yn gweithio'n greadigol gyda phob person i greu canlyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau
  • Rydym yn adeiladu partneriaethau i ddarparu'r cyfuniad gorau posib o wasanaethau
  • Rydym yn dysgu ac yn gwella

Yn aml defnyddir anhawster dysgu ac anabledd dysgu yn gyfnewidiol; gwell gennym ddefnyddio'r term anhawster dysgu.

Sut rydym yn gweithredu

Ni fyddem yn bodoli heb y bobl rydym yn eu cefnogi. Felly, mae'n iawn ein bod yn gwrando arnynt i ganfod sut rydym yn llwyddo, sut rydym yn methu, a beth arall gallwn ei wneud i'w helpu i fyw'r bywydau mae arnynt eu heisiau.

Rydym wedi sefydlu strategaeth atebolrwydd o'r enw 'Mae Pawb yn Bwysig' sy'n canolbwyntio ar y tri phrif faes – sicrhau bod pobl yn gwybod beth rydym yn ei wneud; eu cynnwys wrth redeg y sefydliad – e.e. drwy recriwtio eu staff eu hunain – a sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli'n ffurfiol mewn sefyllfaoedd megis cyfarfodydd y bwrdd.

Rydym bellach yn fwy atebol i'r bobl rydym yn eu cefnogi nag erioed o'r blaen, ac mae eu gweld ar draws y sefydliad yn ein hatgoffa'n barhaus o'n diben – i'w helpu i fyw'r bywydau mae arnynt eu heisiau.

Cawn ein rheoli hefyd gan Fwrdd Rheoli gwirfoddol, sy'n cynnwys perthnasau a dau berson ag anawsterau dysgu.

Last updated: 18th July 2008 at 10:07:39